Athrawes: Mrs Bethan Haf Rowlands
Cymhorthydd dosbarth: Mrs Nicola Roberts
Llyfrau Darllen: Llyfrau darllen i’w dychwelyd yn ddyddiol. Bydd eich plentyn yn derbyn llyfr darllen newydd yn wythnosol.
Gwaith Cartref: Ar ddydd Gwener bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar bapur neu ar Google Classroom. Gofynnaf yn garedig i chi annog eich plentyn i gwblhau'r gwaith erbyn y dydd Llun canlynol, er mwyn derbyn marc dojo!
Addysg Gorfforol: Bydd y wers addysg gorfforol ar ddydd Llun, felly bydd eich plentyn angen crys t a siorts I’w cadw yn y dosbarth.
Ein thema y tymor hwn yw 'Archwilwyr y Gymuned’, lle byddwn yn astudio Llangefni a’r ardal leol. Ar gychwyn y tymor byddwn yn gofyn am syniadau’r plant, gan eu plethu i mewn i waith y dosbarth yn ystod y tymor. Bydd gwersi pwrpasol wedi eu paratoi i symbylu’r plant i ddysgu a mwynhau, ac i roi profiadau gwerthfawr iddynt.
Dyma rai gwefannau defnyddiol:
Mae eich plentyn wedi derbyn manylion mewn-gofnodi i ddefnyddio'r gwefannau / apps uchod adref yn ogystal â'r dosbarth.
Diolch yn fawr,
Mrs Bethan H Rowlands
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2022 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd