Athrawes ddosbarth: Mrs Rhian Angharad Griffiths
Athrawon CPA: Mr Owain Gwilym a Miss Elen Thomas
Ymarfer Corff – bydd ein gwers ni ar ddydd Iau gyda Mr Owain Gwilym.
Llyfrau darllen – Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen i’w hymarfer yn y dosbarth ac adref. Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn, ac i gofnodi yn y llyfr cofnod. Ceir dolenni cyswllt ar Google Clasroom i wefannau sy’n darparu llyfrau darllen ar y we i’w darllen neu wrando ar straeon. Hefyd, mae gan eich plentyn fynediad i raglen ddarllen ‘Reading Eggs’ a ‘Giglets’. Mae’r holl fanylion mewngofnodi ar broffil eich plentyn ar Class Dojo.
Gwaith cartref: Byddwn yn gosod a rhannu gwaith cartref ar ddydd Gwener drwy’r Google Classroom. Gofynnir yn garedig i chwi gynorthywo ac annog eich plentyn i gwblhau’r dasg. Dylid gwneud pob ymdrech i’w gwblhau erbyn y dydd Mercher canlynol.
Cymorth / Ymholiad – Cysylltwch drwy neges Classdojo.
‘Pell ac Agos’ yw teitl ein thema y tymor hwn. Byddwn yn dysgu am daith a thrychineb y Royal Charter, gwaith y goleudy a’i bwysigrwydd, hanes Grace Darling a’r elusen y Bâd Achub. Caiff y plant fewnbwn a llais yn ein cynllunio. Cawsom syniadau ac awgrymiadau posib am weithgareddau ar gyfer y thema gan ein rhieni. Rydym yn ddiolchgar o’u mewnbwn.
Parheuwn i ymarfer ein sgiliau gwaith pen, ymarfer ac ail-ymweld a’r pedair rheol a rhoi cyfle i atgyfnerthu’r syniadau yn ein gwaith thema lle bo hynny’n bosib. Caiff y dysgwyr gyfle i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu.
Rydym yn hybu ein dysgwyr i gadw’r corff yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Byddent yn derbyn gwersi nofio, sesiynau ffitrwydd, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio ‘Google Classroom’ ar gyfer gweithgareddau dosbarth, ac i gyflwyno a chwblhau gwaith cartref.
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2022 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd