Crigyll (Blwyddyn 4)

Croeso i dudalen dosbarth Crigyll

Helo a chroeso i dudalen dosbarth Crigyll! Plant blwyddyn 4 sydd yn y dosbarth hwn eleni ac rwy’n gobeithio am flwyddyn hapus iawn! Mr Owain Rees Williams ydw i, athro'r dosbarth, a rhai o’m diddordebau ydy chwarae golff a gemau cyfrifiadur, cerdded a thynnu lluniau.


Athro dosbarth:
Mr Owain Rees Williams

Athrawon CPA: Mrs Lisa Thomas

Ymarfer Corff – bydd ein gwers ni ar b’nawn Mawrth

Llyfrau darllen – Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen i’w hymarfer yn y dosbarth ac adref. Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn, ac i gofnodi ar Seesaw.
Ceir dolenni cyswllt ar Google Clasroom i wefannau sy’n darparu llyfrau darllen ar y we i’w darllen neu wrando ar straeon. Hefyd, mae gan eich plentyn fynediad i raglen ddarllen ‘Reading Eggs’,‘Giglets’ a Darllenco. Mae’r holl fanylion mewngofnodi wedi eu hanfon adref gyda’ch plentyn.

Cymorth / Ymholiad – Cysylltwch drwy neges Seesaw.

Ein thema:

‘Ein Milltir Sgwâr’ ydi ein thema ni, a byddwn yn dysgu am ein hardal leol.
Cawn ymweliad i Archifdy Llangefni fel sbardun. Bydd mewnbwn y plant yn bwysig i ni wrth gynllunio ein gweithgareddau.
Yn ein gwersi Mathemateg, rhoddwn bwyslais ar waith pen, datblygu ac ymarfer y pedair rheol, gan ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd yn ein gwaith trawsgwricwlaidd.
Byddwn yn atgyfnerthu a datblygu ein sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu.

Caiff y disgyblion gyfle ar gyfer cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol drwy wersi Addysg Gorfforol, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf. Cânt werthfawrogi Cerddoriaeth ac i fynegi yn greadigol drwy waith Celfyddydol.
Byddwn yn myfyrio adeg Sul y Cofio a dysgu am ddathlu’r Nadolig o gwmpas y byd.

Gwefannau defnyddiol:

 

Our Class Council Representatives

  • Bydis Buarth
  • Cyngor Digidol
  • Cyngor Eco
  • Cyngor Dosbarth
  • Siarter Iaith
  • Ysgol Iach

 

 

 

Ysgol y Graig

Cysylltwch â Ni

Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP

6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net

(01248) 723092