Llynnon (Blwyddyn 3 a 4)

Croeso i dudalen dosbarth Llynnon!

Athro dosbarth: Mr Jonathan Jones

Athrawon CPA: Mrs Manon Owen

Ymarfer Corff – bydd ein gwers ni ar b’nawn Mawrth.

Llyfrau darllen – Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen i’w hymarfer yn y dosbarth ac adref. Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn, ac i gofnodi ar Seesaw.

Cyfnod Darllen gyda Mr Jones:
Dydd Llun: Bechgyn Blwyddyn 4
Dydd Mawrth: Genethod Blwyddyn 4
Dydd Mercher: Bechgyn Blwyddyn 3
Dydd Iau: Genethod Blwyddyn 3

Ceir dolenni cyswllt ar Google Clasroom i wefannau sy’n darparu llyfrau darllen ar y we i’w darllen neu wrando ar straeon. Hefyd, mae gan eich plentyn fynediad i raglen ddarllen ‘Reading Eggs’,‘Giglets’ a Darllenco. Mae’r holl fanylion mewngofnodi wedi eu hanfon adref gyda’ch plentyn ac ar Seesaw.

Cymorth / Ymholiad – Cysylltwch drwy neges Seesaw.

Ein thema:
‘Ein Milltir Sgwâr’ ydi ein thema ni, a byddwn yn dysgu am ein hardal leol.
Cawn ymweliad i Archifdy Llangefni fel sbardun. Bydd mewnbwn y plant yn bwysig i ni wrth gynllunio ein gweithgareddau.
Yn ein gwersi Mathemateg, rhoddwn bwyslais ar waith pen, datblygu ac ymarfer y pedair rheol, gan ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd yn ein gwaith trawsgwricwlaidd.
Byddwn yn atgyfnerthu a datblygu ein sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu.

Caiff y disgyblion gyfle ar gyfer cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol drwy wersi Addysg Gorfforol, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf. Cânt werthfawrogi Cerddoriaeth ac i fynegi yn greadigol drwy waith Celfyddydol.
Byddwn yn myfyrio adeg Sul y Cofio a dysgu am ddathlu’r Nadolig o gwmpas y byd.


Gwefannau defnyddiol:

 

Cynrychiolwyr Cynghorau Dosbarth Ni

  • 151121-llynnon-digidol
  • 171121-llynnon-bydis
  • 171121-llynnon-dosbarth
  • 171121-lynnon-eco
  • 171121-lynnon-iach
  • 171121-lynnon-siarter-iaith

 

Ysgol y Graig

Cysylltwch â Ni

Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP

6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net

(01248) 723092