Athro dosbarth: Mr Rhys Glyn Pritchard
Athrawon CPA: Mrs Elen Owen a Mrs Manon Owen
Ymarfer Corff: Bydd ein gwers ni ar b'nawn Mercher
Llyfrau darllen: Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen i’w hymarfer yn y dosbarth ac adref. Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn ac i gofnodi ar Seesaw.
Ceir dolenni cyswllt ar Google Classroom i wefannau sy’n darparu llyfrau darllen ar y we i’w darllen neu wrando ar straeon. Hefyd, mae gan eich plentyn fynediad i raglen darllen ‘Reading Eggs’, ‘Giglets’ a Darllenco. Mae’r holl fanylion mewngofnodi wedi eu hanfon adref gyda’ch plentyn.
Cymorth / Ymholiad: Cysylltwch drwy neges Seesaw.
‘‘Ein Milltir Sgwâr’ ydi ein thema ni, a byddwn yn dysgu am ein hardal leol.
Cawn ymweliad i Archifdy Llangefni fel sbardun. Bydd mewnbwn y plant yn bwysig i ni wrth gynllunio ein gweithgareddau.
Yn ein gwersi Mathemateg, rhoddwn bwyslais ar waith pen, datblygu ac ymarfer y pedair rheol, gan ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd yn ein gwaith trawsgwricwlaidd.
Byddwn yn atgyfnerthu a datblygu ein sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu.
Caiff y disgyblion gyfle ar gyfer cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol drwy wersi Addysg Gorfforol, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf. Cânt werthfawrogi Cerddoriaeth ac i fynegi yn greadigol drwy waith Celfyddydol.
Byddwn yn myfyrio adeg Sul y Cofio a dysgu am ddathlu’r Nadolig o gwmpas y byd.
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2023 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd