Croeso i ddosbarth Porth Wen. Hoffwn groesawu disgyblion blwyddyn 1 i’r dosbarth. Miss Awen Jones yw’r athrawes ddosbarth a bydd Mrs Susan Taylor yn cynorthwyo’r disgyblion o ddydd i ddydd. Mrs Manon Jones-Owen fydd yr athrawes CPA.
Mae dosbarth Porth Wen gydag awyrgylch hapus ble mae pawb yn rhoi o’i orau. Byddwn yn annog y dosbarth i fod yn bositif, gyda hunan hyder ac awch i ddysgu.
Mae tymor cyffroes o’n blaenau gyda thema newydd sef Archwilwyr y Gymuned. Byddem yn dysgu am y gymuned leol sef Llangefni, edrych ar gartref y plant a phwy sy’n byw yno, edrych ar y mathau gwahanol o dai a sut mae tai wedi newid dros y blynyddoedd.
Bydd sesiynau darllen yn cael eu cynnal yn ddyddiol, byddaf yn darllen gyda phob plentyn yn unigol yn ystod yr wythnos.
Rydym yn annog y plant i ddarllen yn rheolaidd, gofynnwn yn garedig i chi ddarllen gyda’ch plentyn yn ddyddiol gan gofnodi sylwadau yn y cofnod darllen. Bydd angen iddynt ddod a’u cofnod darllen a’u llyfrau i’r ysgol bob dydd.
Dydd Mawrth bydd gwersi Ymarfer Corff. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau gwisg addas ar gyfer y gwersi. (crys-t, siorts a trainers).
Dydd Gwener bydd Gwaith Cartref yn cael ei osod i’r plant. Dylid gwneud pob ymdrech i’w gwblhau a’i ddychwelyd erbyn y dydd Llun canlynol. Gofynnwn am eich cefnogaeth i sicrhau bod eich plentyn yn cwblhau’r gwaith.
Caniateir i blant ddod a diod o ddŵr a ffrwyth i’r ysgol i fwyta yn ystod amser egwyl. Mae siop ymhob dosbarth gydag amrywiol ffrwythau ar werth am £1 yr wythnos. Gofynnwn yn garedig i chi ddod a’r arian mewn amlen i’r dosbarth ar Ddydd Llun o.g.y.dd.
Dilynwch ddosbarth eich plentyn ar ClassDojo. Ceir newyddion a llwyddiannau eich plentyn a’r dosbarth ar hwn.
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2022 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd