Swtan (Blwyddyn 5)

Croeso i ddosbarth Swtan!

Athro dosbarth: Mr Owain Gwilym
Athrawon CPA: Mrs Lisa Thomas
Ymarfer Corff: P'nawn Iau

Llyfrau darllen: Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn ac i gofnodi ar Seesaw. Mae croeso i chi roi recordiadau o’ch plentyn yn darllen ar Seesaw. Hefyd, mae gan eich plentyn fynediad i raglen darllen ‘Reading Eggs’, ‘Giglets’ a Darllenco.

Cymorth/Ymholiad: Cysylltwch drwy neges Seesaw.

Ein thema: ‘Rhyfel a Heddwch’

Rhyfel a Heddwch ydi ein thema ni yn ystod y tymor hwn. Wedi llawer o drin a thrafod, mae’r plant wedi penderfynu eu bod eisiau astudio’r Ail Ryfel Byd ac rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith yma. Yn ogystal â hyn, mi fyddem yn astudio rhyfeloedd yng Nghymru ac yn dysgu am bobl arwyddocaol fel Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Owain Glyndwr. Bydd y plant hefyd yn dysgu am heddychwyr dylanwadol, megis Malala Yousafzai a Nelson Mandela. Ynghlwm â hyn, bydd y plant dysgu am ddigwyddiadau cyfredol fel Rhyfel Wcrain. Erbyn diwedd y thema, gobeithiwn y bydd y plant yn deall canlyniadau rhyfela ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd heddwch yn y byd, tra’n dangos empathi tuag at wahanol bobl a’u sefyllfaoedd.

Yn ein gwersi Mathemateg, rhoddwn bwyslais ar waith rhifedd pen, datblygu ac ymarfer y pedair rheol, gan ddatblygu’r sgiliau hyn yn drawsgwricwlaidd.

Caiff y disgyblion gyfle ar gyfer cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol drwy wersi Addysg Gorfforol, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf. Cânt werthfawrogi cerddoriaeth ac i fynegi yn greadigol drwy waith celfyddydol a thechnoleg.

Byddwn yn myfyrio adeg Sul y Cofio a dysgu am ddathliadau’r Nadolig o gwmpas y byd.

 

Gwefannau defnyddiol:

 

Cynrychiolwyr Cynghorau Dosbarth Swtan

 

Ysgol y Graig

Cysylltwch â Ni

Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP

6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net

(01248) 723092