Yr athrawes ddosbarth yw Mrs Lowri Mai Jones a'r cynorthwywyr dosbarth yw Miss Sharon Williams a Mrs Anwen Roberts. Ein athrawes CPA yw Miss Elen Owen
Ein prif nod yw sicrhau bod pob plentyn yn hapus ac yn mwynhau'r ysgol, edrychwn ymlaen at wylio'ch plentyn yn datblygu ac yn ffynnu trwy gydol y flwyddyn!
Ein thema ar gyfer y tymor yw ‘wrth ein traed’. Rydyn ni'n dechrau pob thema gydag amser cylch fel bod y plant yn arwain ac yn cyfarwyddo eu dysgu a'u syniadau. Trwy'r thema hwn, byddwn yn datblygu sgiliau ieithyddol y plant yn Gymraeg trwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu. Hefyd, datblygu eu sgiliau mathemateg. Mae disgyblion yn cael cyfle i aros yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol trwy ddysgu yn yr awyr agored a datblygu eu sgiliau mewn ffordd greadigol. Ar ben hynny, rydyn ni'n gobeithio helpu i lunio dysgwyr annibynnol sy'n caru dysgu trwy greu gweithgareddau ysgogol o fewn y meysydd dysgu ac ardaloedd o fewn y dosbarth. Rydyn ni'n edrych ymlaen i addysgu'r plant.
Addysg Gorfforol: Ein diwrnod addysg gorfforol yw dydd Mawrth. Gofynnwn yn garedig i chi yrru set o wisg addas ar gyfer y gwersi (crys-t, siorts a trainers) a’u gadael nhw yn yr ysgol.
Ffrwythau: Bydd siop ffrwythau ar gael yn ddyddiol i’r plant. Gofynnwn yn garedig am £1 am yr wythnos. Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu sgiliau gweini’r dysgwyr mewn sesiwn Caffi dyddiol.
Darllen llyfrau: Llyfrau darllen – bydd gan eich plentyn lyfr darllen Cymraeg. Dylai’r llyfrau ddod i’r ysgol bob dydd. Gofynnwn i chi sicrhau fod eich plentyn yn ymarfer a thrafod ei (ll)lyfrau.
Cymorth / Ymholiadau: Cysylltwch trwy ‘neges’ ar Seesaw.
Diolch,
Mrs Jones, Miss Williams a Mrs Roberts
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2023 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd