Athrawes: Miss Manon Rowlands.
Cymorthyddion: Miss Karen Jones a Miss Debbie Purcell.
Athro CPA: Mr Jonathan Jones.
Rydym yn ddosbarth llawn hwyl, chwerthin a gwaith caled sydd ag awyrgylch ofalgar. Ein nod ydy sicrhau ein bod yn meithrin unigolion hyderus, creadigol a dysgwyr uchelgeisiol.
Ein thema am y tymor hwn ydy ‘Wrth ein traed’. Rydym yn dilyn llais y dysgwyr o ran ein dysgu gan ofyn iddynt rannu eu syniadau gwych. Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at gael cyflawni amrywiaeth o dasgau gwahanol.
Bydd ein gwersi ymarfer corff bob prynhawn dydd Mawrth, felly cofiwch ddod yn eich esgidiau addas.
Bydd llyfrau darllen / llythrennau Tric a Chlic yn cael eu gyrru adref yn hwyrach ymlaen yn ystod yr hanner tymor a bydd disgwyl i chi ddarllen adref yn rheolaidd gyda'ch plentyn.
Cofiwch am ein Siop Ffrwythau sydd yn 20c y dydd / £1 am yr wythnos. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal sesiynau ‘Caffi Dosbarth y Fenai’ yn ddyddiol gyda’r dysgwyr. Bydd yn gyfle iddynt fagu sgiliau annibynnol ac yn rhoi’r amser iddynt ehangu eu sgiliau gweini gyda’u ffrindiau.
Cofiwch, os oes unrhyw gwestiwn cysylltwch gyda mi dros Seesaw,
Hwyl,
Miss Rowlands.
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2023 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd