Y Nyth (Meithrin)

Croeso i’r ddosbarth Nyth.

Helo a chroeso cynnes iawn i chi i ddosbarth ‘Y Nyth’.

Athrawes:- Mrs Naomi Edwards

Athrawes CPA:- Miss Elen Owen (Bore Dydd Iau)

Cymhorthyddion Dosbarth:- Mrs Michelle Roberts a Mrs Debbie Williams

Cymhorthyddion 1-1:- Mrs Sioned Mason

Amseroedd:- 9:00-11:00 (Dosbarth bore)
1:00-3:00 (Dosbarth prynhawn)

Amser Ffrwyth:- Byddwn yn cynnig llefrith i’r plant yn ystod y sesiwn. Mae croeso hefyd i’ch plentyn ddod a diod o ddŵr mewn potel yn eu bag. Y flwyddyn hon, gobeithiwn gynnal caffi yn y dosbarth yn ystod amser ffrwyth, lle bydd y plant yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau allweddol megis arllwys a thorri, yn ogystal â’u sgiliau personol a chymdeithasol. Byddem yn gwerthfawrogi pe bai eich plentyn yn dod a £1 bob bore Dydd Llun os gwelwch yn dda- bydd y £1 yn talu am eu ffrwyth am yr wythnos. Os nad yw hyn yn gyfleus, mae croeso hefyd i’ch plentyn ddod a ffrwyth gyda nhw i’r ysgol yn y bag.

Dillad Sbâr:- Gofynnwn yn garedig i chi roi set o ddillad sbâr ym mag eich plentyn os gwelwch yn dda.

Ymarfer Corff:- Ni fydd plant y Nyth yn cael gwersi Ymarfer Corff swyddogol yn y neuadd tan ar ôl y Nadolig.

Sylweddolwn fod cychwyn yr ysgol am y tro cyntaf yn brofiad pwysig iawn, i rieni yn ogystal â’r plant. Ein nôd yn ystod y tymor cyntaf hwn yw sicrhau bod pob plentyn yn ymgartrefu ac yn hapus yn yr ysgol. Mae gennym bolisi ‘Drws Agored’ yma yn y Nyth- cofiwch ddod i sgwrsio gyda Mrs Edwards os oes unrhyw beth yn eich poeni.

Byddwn yn sicrhau awyrgylch dysgu croesawgar a symbylol sy’n ennyn diddordeb pob dysgwr.

Yn ystod y flwyddyn gobeithiwn allu cyfrannu tuag at ddatblygiad ieithyddol, corfforol, emosiynol, cymdeithasol a deallusol eich plentyn, fel y byddant yn hyderus i ddechrau yn yr ysgol llawn amser mis Medi nesaf.

Ein thema yn ystod y tymor cyntaf yw ‘Dyma Fi / Lliwiau.’ Ynghlwm a’r thema byddwn yn dilyn trywydd a syniadau’r plant. Byddwn yn sicr o drafod yr Hydref a’r Nadolig hefyd!

Cofiwch ddilyn dosbarth ‘Y Nyth’ ar ‘Seesaw.’ Yma byddwn yn rhannu newyddion a llwyddiannau eich plentyn. Gallwch chi hefyd yrru neges bersonol i Mrs Edwards drwy ‘Seesaw’ os oes gennych unrhyw gwestiwn / ymholiad yn ymwneud a’ch plentyn.
Edrychwn ymlaen at flwyddyn llawn hwyl a sbri!


Gwefannau defnyddiol:

 

 

 


Ysgol y Graig

Cysylltwch â Ni

Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP

6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net

(01248) 723092