Rydym fel ysgol bob amser yn herio ein hunain i fod yn arloesol a blaengar yn yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn sicrhau fod holl blant yr ysgol yn cael y sylfaen gadarn y maent ei angen er mwyn adeiladu arno, a thrwy hynny profi llwyddiant yn eu bywydau.
Mae llawer o newidiadau ym myd addysg Cymru ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig ein bod yn barod ar gyfer y newidiadau hynny. Rydym wedi cymryd hyn i ystyriaeth wrth benderfynu ar ein blaenoriaethau eleni.
Blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol 2019 – 2020:
GRANT LLYWODRAETH CYMRU AR GYFER DISGYBLION: 2019 - 2020
Mae'r ysgol wedi derbyn cadarnhad y bydd yn derbyn grant o £69,000 i'w wario ar gefnogi disgyblion Blwyddyn 1 - 6 a £17,500 ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn. Bydd yr ysgol yn parhau i wario'r arian ar gyflogi Swyddog Lles Ysgol, therapydd chwarae a chymhorthydd.
Y mae adroddiad arolwg Estyn, Ionawr 2019, yn nodi "Mae'r ysgol yn gwneud defnydd creadigol iawn o'r grant datblygu disgyblion er mwyn bodloni anghenion eu disgyblion mewn modd sy'n eu gwneud yn fwy parod i ddysgu."
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2022 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd