Edwen (Blwyddyn 5 a 6)

Croeso i dudalen dosbarth Edwen.

Athrawes: Mrs Manon Jones

Helo a chroeso i dudalen dosbarth Edwen!  Fel y gwelwch, mae enwau’r dosbarthiadau yn newydd i ni gyd eleni.  Mi ydan ni wedi mynd ar ôl enwau’r seintiau oedd yn byw ar Ynys Môn ganrifoedd yn ôl, ac mi gawn ni ddysgu mwy am Santes Edwen yn ystod y flwyddyn gobeithio!

Mrs Manon Glyn Jones yw’r athrawes ddosbarth ac mi fydd Miss Nicola Jones yn llenwi yn ystod CPA yn ystod y tymor cyntaf.  Yn nosbarth Edwen rydym yn annog pawb i fod yn bositif, i barchu’i gilydd a’u hunain, ac i ddatblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol.

Ymarfer Corff – Bydd ein gwers ni ar brynhawn Dydd Mawrth felly mae croeso i chi wisgo eich dillad ymarfer corff i ddod i’r ysgol Ddydd Mawrth.  Byddwn yn cael ein gwersi nofio ar Ddydd Mercher.  Bydd y gwersi nofio yn cael eu cynnal tan ddiwedd mis Tachwedd.  Gofynwn yn garedig i chi am gyfraniad o £1.50 tuag at gost cludiant i fynd i Blas Arthur bob Dydd Mercher os gwelwch yn dda.

Llyfrau darllen – Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen i’w hymarfer yn y dosbarth ac adref. Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn.  Eleni, byddwn yn mynd yn ôl i gofnodi llyfrau darllen ar y Cofnod Darllen, ond mae mwy na chroeso i chi recordio eich plentyn yn darllen a chofnodi ar Seesaw os y dymunwch wneud hynny, yn ogystal a’r cofnod darllen arferol.  Ceir dolenni cyswllt ar Google Classroom i wefannau sy’n darparu llyfrau darllen ar y wê i’w darllen neu wrando ar straeon.  Hefyd, mae gan eich plentyn fynediad i raglenni darllen ar-lein sef Reading Eggs a DarllenCo.

Gwaith cartref: Yn dilyn ymchwil cenedlaethol diweddar, ni fyddwn yn rhannu gwaith cartref wythnosol o hyn ymlaen.  Mi fyddwn fodd bynnag yn gofyn wrth eich plentyn o bryd i’w gilydd i drafod ambell destun gyda chi i ennyn eu diddordeb am wahanol agweddau o’r themau sy’n cael eu hastuio.

Cymorth / Ymholiad – Cysylltwch drwy neges Seesaw.

Ein thema: Rydym wedi bod yn treialu themau newydd dros y blynyddoedd aeth heibio ac wedi dod a llais y plentyn i fewn i’r cynllunio.  Y thema ar gyfer y cyfnod hwn hyd at hanner tymor Chwefror yw ‘Teithio’, gan edrych ar deithio yn ôl mewn amser i’r 60au.  Byddwn yn darllen y nofel o’r 60au ‘Charlie and the Chocolate Factory’, dysgu am y ras i’r gofod ac yn edrych ar hanes enwogion y ddegawd a digwyddiadau nodedig y cyfnod fel boddi Tryweryn.  O fewn y themau hyn, bydd cyfle i blethu’r 6 maes dysgu a phrofiad gan sicrhau fod cyfleoedd trawsgwricwlaidd i’w cael yn gyson. Cânt felly werthfawrogi cerddoriaeth a mynegi eu syniadau yn greadigol drwy waith celfyddydol yn ogystal.

Mathemateg: Yn y gwersi Mathemateg, byddwn yn parhau i roi pwyslais ar waith pen, ymarferion y pedair rheol, a pharhau i atgyfnerthu eu gwybodaeth o dablau lluosi.  Byddwn yn datblygu ymhellach i weithio ar unedau siap a mesur, ac yna yn datblygu sgiliau data a thebygolrwydd gan blethu beth a ddysgwyd yn ein gwaith trawsgwricwlaidd.  Erbyn diwedd y flwyddyn, fe fyddwn wedi cael blas ar ddatblygu sgiliau algebra yn ogystal.

Iaith: Byddwn yn atgyfnerthu a datblygu ein sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu.  Fel yn y gwaith Rhifedd, bydd cyfle i blethu’r sgiliau a ddysgwyd i mewn i’r tasgau trasgwricwlaidd.  Bydd cyfleoedd hefyd i ddechrau dysgu ambell iaith ryngwladol i ennyn diddordeb a dysgu am wahanol ddiwyllianau ar draws y byd.

Iechyd a Lles: Caiff y disgyblion gyfle ar gyfer cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol drwy wersi Addysg Gorfforol, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf. 

Gwefannau defnyddiol:

 

Cynrychiolwyr Cynghorau Dosbarth Ni

  • 221121-ysgol
  • 221121-iaith
  • 221121-eco
  • 221121-iach
  • 221121-digidol
  • 221121-bydis-buarth

 

Ysgol y Graig

Cysylltwch â Ni

Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP

6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net

(01248) 723092