Pabo (Meithrin)

Croeso i Ddosbarth Pabo!

Helo a chroeso cynnes iawn i chi i ddosbarth Pabo. 

Athrawes: Mrs Sarah Roberts
Cymhorthydd: Mrs Debbie WiIliams, Miss Lexi Hussey a Mrs Sioned Mason

Amseroedd:- 9:00-11:00 (Dosbarth bore) 1:00-3:00 (Dosbarth prynhawn)

Sylweddolwn fod cychwyn yr ysgol am y tro cyntaf yn brofiad pwysig iawn, i rieni yn ogystal â’r plant. Mae darparu profiadau addysgol addas yn fuddsoddiad yn eu dyfodol.  Ein nôd yn nosbarth Pabo yw datblygu plant sydd yn hapus, hyderus, ymholgar, gyda diddordeb mewn bywyd ac sydd yn ymateb yn frwdfrydig i unrhyw her y byddant yn ei hwynebu.
Yn ogystal â datblygu disgyblion yn unol â’r 4 diben, mi fyddwn yn gweithio tuag at y llwybrau dysgu a nodir yng nghwricwlwm y blynyddoedd cynnar:

poster 5 llwybr datblygu

Yn ogystal â sicrhau ffocws ar y chwech maes dysgu a phrofiad:

poster 6 maes dysgu

Mae gennym bolisi ‘Drws Agored’ yma- cofiwch ddod i sgwrsio gyda Mrs Roberts os oes unrhyw beth yn eich poeni.

Ein thema yn ystod y tymor hwn yw ‘Hud a Lledrith.’ Ynghlwm a’r thema byddwn yn dilyn trywydd a syniadau’r plant wrth ganolbwyntio ar straeon Rala Rwdins.

Amser ffrwyth a llefrith:- Yn ystod y sesiwn, mi fyddwn yn cael cyfle i gael ffrwyth gyda’n gilydd.  Gofynnir i chi rhoi ffrwyth yn eu bag bob dydd. Byddwn hefyd yn cynnig llefrith i’r plant yn ystod y sesiwn, neu mae croeso i’ch plentyn ddod a diod o ddŵr mewn potel yn eu bag.

Dillad Sbâr:- Gofynnwn yn garedig i chi roi set o ddillad sbâr ym mag eich plentyn os gwelwch yn dda.

Cofiwch ddilyn dosbarth Pabo ar ‘Seesaw.’ Yma byddwn yn rhannu newyddion a llwyddiannau eich plentyn. Gallwch chi hefyd yrru neges bersonol i Mrs Roberts drwy ‘Seesaw’ os oes gennych unrhyw gwestiwn / ymholiad yn ymwneud a’ch plentyn.

Edrychwn ymlaen at flwyddyn llawn hwyl a sbri!

Mrs S Roberts

Thema:

Gwybodaeth i ddod...

Gwefannau defnyddiol:

 

 

 


Ysgol y Graig

Cysylltwch â Ni

Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP

6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net

(01248) 723092