Diolch o galon i Grŵp Cefnogi Môn am y rhodd hael i’r ysgol.
Dyma rai o swyddogion y Cyngor ysgol yn barod i drafod sut i wario’r arian er budd y disgyblion.
Ymgyrch ail-gylchu pwmpiau Asthma
Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n cefnogi ein hymgyrch i ail-gylchu ein pwmpiau Asthma. Roedd y Feddygfa leol yn falch o’u derbyn.
Blwyddyn Ysgol Newydd
Croesawyd criw newydd o blant unwaith eto i ddosbarth y Nyth yng ngofal Mrs Edwards. Bydd hi’n cael ei chadw’n brysur gyda’r criw hynaf yn mynychu yn y bore a’r rhai hynaf yn y prynhawn.
Athrawon Newydd
Croesawyd athrawon newydd i ysgol y Graig yn ystod y Tymor hwn. Penodwyd Mrs Manon Jones yn athrawes i Flwyddyn 6 a Miss Laura Millican yn athrawes i Flwyddyn 4. Penodwyd Mrs Manon Jones hefyd yn bennaeth ar yr adran Blwyddyn 5 a 6 dros dro. Croeso cynnes i’r ddwy ohonynt.
PC Owain
Cafwyd nifer o ymweliadau gan PC Owain fu’n siarad
efo’r plant am ffordd o ymddwyn y tu allan i’r ysgol. Bu llu
o sgyrsiau da ar sut y gall ymddygiad da wneud i bawb
fod yn hapus yn cyd-fyw gyda’i gilydd. Gwelwyd nifer o
fideos hefyd er mwyn trafod sut y gall ymddygiad
gwrthgymdeithasol effeithio ar deuluoedd a’r gymuned i gyd.
Diolch i PC Owain am ei amser ac am y trafodaethau arbennig a gafwyd.
Dail yr Hydref
Cafodd dosbarthiadau plant blwyddyn 3 a 4 fynd am dro
ar hyd Llwybr Traed Bach yn ddiweddar i gasglu dail o
bob math wrth fynd ati i edrych ar newidiadau byd natur
yn nhymor yr Hydref. Roedd hi’n deg dweud bod ambell
un wedi casglu pentwr o ddail oedd wedi disgyn! Cafodd
y plant hwyl garw ar arddangos y newidiadau hyn wedi
iddynt ddychwelyd i’r dosbarth a chwblhau eu gwaith.
Diolch i’r athrawon am fynd a’r plantos ar eu hantur!
Diolchgarwch
Bu’r plant yn brysur yn creu fideos Diolchgarwch i’w rhannu gyda’r rhieni a gweddill yr ysgol. Gwelwyd gwaith caled iawn gan ddisgyblion Blwyddyn 6 fu’n cyd-gordio ymdrechion pob dosbarth unigol i glymu’r eitemau gyda’i gilydd. Diolch i’r holl athrawon am eu gwaith gyda’r plant.
Ymweliad Blwyddyn 6 ȃ’r llyfrgell
Fel rhan o ddathliadau Wythnos Gofod y Byd,
gwahoddwyd disgyblion blwyddyn 6 i’r llyfrgell i gymryd
rhan mewn gweithgareddau codio.
Trefnwyd pedair sesiwn i gyd, a bu’r plant yn brysur iawn
yn rhaglennu robotiaid LEGO. Cafwyd hwyl garw yn
cynnal rasys gyda’r robotiaid yma wedyn! Yna, cawsant
flas ar greu animeiddiad eu hunain drwy raglennu a
chodio ar y cyfrifiadur.
Diolch o galon i’r staff yn y llyfrgell am drefnu’r
gweithgareddau ac i roi o’u hamser fel bod y disgyblion
yn cael profiadau gwerthfawr fel hyn.
Cawsom ddathlu diwrnod shwmae/su’mai ar Hydref 15fed trwy greu ein darluniau a gwneud gweithgareddau yn y dosbarth. Mae’r diwrnod wedi ei drefnu gan fentrau iaith Cymru i’n helpu ni i gofio y dylai pob un ohonom ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg.
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2022 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd