Athrawes: Mrs Elin Rowlands
Cymhorthydd: Miss Catrin Frazer Cymhorthydd ADY: Miss Megan Griffiths
Rydym yn ddosbarth llawn hwyl, chwerthin a gwaith caled mewn awyrgylch gofalgar. Ein nod yw datblygu dysgwyr uchelgeisiol, creadigol a hyderus.
Y tymor hwn bydd ein gwaith yn seiliedig ar ‘Hyd a Lledrith’. Byddwn hefyd yn trafod yr Hydref cyn symud ymlaen i ddathlu’r Eisteddfod ac i gwblhau amrywiaeth o weithgareddau thema’r Nadolig. Rydym yn dilyn llais y plant ar gyfer ein dysgu. Rydym yn edrych ymlaen at weithgareddau llawn hwyl.
Mae ein gwersi Addysg Gorfforol yn cael eu cynnal bob Dydd Gwener. Gofynnwn yn garedig i’ch plentyn ddod i’r ysgol yn eu dillad ymarfer corff ar y diwrnod hwnnw.
Rydym yn annog y plant i ddarllen a thrafod eu llyfr darllen gartref mor aml â phosib, ac yn gofyn yn garedig i chi gofnodi unrhyw sylwadau yn y cofnod darllen ar Seesaw. Dylid dychwelyd llyfrau darllen yn ddyddiol. Bydd eich plentyn yn derbyn llyfr darllen newydd yn wythnosol.
Cofiwch, os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy Seesaw.
Cofion,
Mrs Rowlands
Gwybodaeth i ddod...
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2025 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd