Maethlu (Blwyddyn 5 a 6)

Croeso i dudalen dosbarth Maethlu

Athrawes Dosbarth: Miss Laura Millican

Athrawes CPA: Mrs Sian Richards a Mr Jonathan Jones

Ymarfer Corff: P’nawn Mercher gyda Mr Jonathan Jones (nofio ar ddydd Mercher am 10 wythnos)

Llyfrau darllen: Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen a chofnod pob dydd Llun a gofynnwn iddynt eu dychwelyd ar y dydd Gwener yr un wythnos er mwyn gallu cael llyfrau newydd. Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn ac i gofnodi yn y Cofnod Darllen. Mae croeso i chi roi recordiadau o’ch plentyn yn darllen ar Seesaw.

Cymorth/Ymholiad: Cysylltwch drwy neges Seesaw.

Ein thema: Rhyfel a Heddwch ydi enw ein thema am y tymor a hanner nesaf. Mi fyddan ni’n astudio cestyll a’u dyluniad er mwyn deall sut roedd hynny’n eu cynorthwyo yn ystod brwydrau. Bydd y plant yn dysgu llawer am Yr Ail Ryfel Byd ac yn cymharu sut mae bywydau wedi newis ers y 1940au. Bydd y plant yn dysgu am effeithiau’r rhyfel a rhyfeloedd eraill. Er mwyn deall beth yw heddwch, mi fyddan ni’n astudio heddychwyr enwog a deall effeithiau eu gweledigaeth a gwaith ar bobl. Rydym yn edrych ymlaen at ddysgu llawer!

Mathemateg: Yn y gwersi Mathemateg, byddwn yn parhau i roi pwyslais ar waith pen, ymarferion y pedair rheol, a pharhau i atgyfnerthu eu gwybodaeth o dablau lluosi. Byddwn yn datblygu ymhellach i weithio ar unedau siap a mesur, ac yna yn datblygu sgiliau data a thebygolrwydd gan blethu beth a ddysgwyd yn ein gwaith trawsgwricwlaidd. Erbyn diwedd y flwyddyn, fe fyddwn wedi cael blas ar ddatblygu sgiliau algebra yn ogystal.

Iaith: Byddwn yn atgyfnerthu a datblygu ein sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu. Fel yn y gwaith Rhifedd, bydd cyfle i blethu’r sgiliau a ddysgwyd i mewn i’r tasgau trasgwricwlaidd. Bydd cyfleoedd hefyd i ddechrau dysgu ambell iaith ryngwladol i ennyn diddordeb a dysgu am wahanol ddiwyllianau ar draws y byd.

Iechyd a Lles: Caiff y disgyblion gyfle ar gyfer cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol drwy wersi Addysg Gorfforol, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf.

Ysgol y Graig

Cysylltwch â Ni

Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP

6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net

(01248) 723092