Athrawes: Mrs Lowri Mai Jones
Cymhorthyddion: Miss Sharon Williams, Miss Sera Davies
Rydym yn ddosbarth llawn hwyl, chwerthin a gwaith caled mewn awyrgylch gofalgar. Ein nod yw datblygu dysgwr annibynnol, uchelgeisiol a hyderus. Drwy datblygu y sgiliau o cydweithio, rhoi cynnig arni a dyfalbarhau.
Y tymor hwn bydd ein gwaith yn seiliedig ar ’Hud a Lledrith’ a byddwn yn trafod tymor yr Hydref. Rydym yn dilyn llais y plentyn ac yn edrych ymlaen gwrando ar syniadau gwahanol ganddynt.
Addysg Gorfforol
Bydd y wers Addysg Gorfforol yn cael ei chynnal bob bore Dydd Iau. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod eich plentyn yn gwisgo dillad addas ar gyfer y gwersi. Gofynnwn yn garedig i’ch plentyn ddod i’r ysgol yn eu dillad ymarfer corff ar y diwrnod hwnnw.
Llyfrau Darllen
Rydym yn annog y plant i ddarllen a thrafod eu llyfr darllen gartref mor aml â phosib, ac yn gofyn yn garedig i chi gofnodi unrhyw sylwadau yn y cofnod darllen ar Seesaw. Dylid dychwelyd llyfrau darllen yn ddyddiol.
Cofiwch, os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy Seesaw.
Cofion,
Mrs Jones
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2025 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd