Mae Cerddoriaeth yn rhan greiddiol o’r Graig. Mae’r holl ddisgyblion yn mwynhau canu amrywiol o emynau yn y gwasanaeth boreol, ac yn perfformio mewn sioeau Nadolig.
Caiff Côr yr ysgol, gyfle i ganu mewn gwasanaethau, cyngherddau at achosion da ac wrth gwrs cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Bydd cyfle iddynt hefyd i ddysgu canu Cerdd Dant, a bu’r Côr Cerdd Dant a’r Parti Cerdd Dant yn llwyddiannus ar lwyfan yr Urdd.
Fel rhan o ddarpariaeth Cerdd yr ysgol drwy wasanaeth Cerdd William Mathias, rhoddwn y cynnig a’r cyfle i ddisgyblion yr adran Iau dderbyn gwersi offerynnol.
Ar hyn o bryd cynigir gwersi:-
Mae’r cyfle hwn i ddysgu chwarae offeryn neu fod yn aelod mewn côr yn:-
Yn flynyddol, bydd Band yr ysgol o dan arweiniad Mrs Kate Gwilliam yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Daeth llwyddiant sawl tro, â’r profiad arbennig i aelodau’r band yn cael perfformio ar lwyfan prifwyl ieuenctid Cymru.
Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Cyd-lynydd Cerdd Rhys G. Pritchard.
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2022 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd