Athrawes: Miss Manon Pari
Cymhorthydd: Mrs Sharon Binfield
Cymhorthydd ADY: Miss Lisa Harries
Rydym yn ddosbarth yn llawn bwrlwm, hwyl a gwaith caled mewn awyrgylch hapus a gofalgar. Ein nod ydy sicrhau ein bod yn meithrin unigolion hyderus, annibynnol ac uchelgeisiol.
Y tymor hwn byddwn yn dilyn thema ‘Hud a Lledrith’. Rydym yn dilyn llais y dysgwyr o ran ein dysgu a diolch iddyn nhw am eu syniadau arbennig! Rydym yn edrych ymlaen at weithgareddau llawn hwyl.
Addysg Gorfforol
Bydd ein gwersi Addysg Gorfforol yn cael eu cynnal bob bore Mercher. Gofynnwn yn garedig i'r plant adael eu dillad Addysg Gorfforol yn yr ysgol er mwyn newid iddynt yn yr ysgol cyn eu gwers.
Darllen
Byddwn yn darllen gyda'ch plentyn yn yr ysgol a bydd llyfrau darllen yn cael eu gyrru adref yn wythnosol. Hoffwn i chi ddarllen adref yn rheolaidd gyda'ch plentyn os gwelwch yn dda. Peidiwch ag anghofio cofnodi cynnydd eich plentyn ar ffolder 'Darllen' ar SeeSaw.
Cofiwch, os oes gennych unrhyw gwestiwn neu gonsyrn, peidiwch ac oedi i gysylltu gyda mi dros SeeSaw.
Cofion,
Miss Pari
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2025 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd