Helo a chroeso i dudalen dosbarth Y Pandy! Enw newydd eleni! Sydd gobeithio yn adlewyrchu pwysigrwydd y gymuned leol i ni yma yn Y Graig. Mrs Manon Glyn Jones yw’r athrawes ddosbarth a’r athrawon CPA yw Mrs Lisa Thomas a Mrs Elen Owen. Yn nosbarth Y Pandy rydym yn annog pawb i fod yn bositif, i barchu’i gilydd a’u hunain, ac i ddatblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol.
Ymarfer Corff – Bydd ein gwers ni ar brynhawn Dydd Mercher, a byddwn yn cael ein gwersi nofio hefyd ar Ddydd Mercher. Cewch wisgo eich dillad ymarfer corff felly bob Dydd Mercher i ddod i’r ysgol. Mi fydd y gwersi nofio yn cael eu cynnal tan ganol mis Tachwedd.
Llyfrau darllen – Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen i’w hymarfer yn y dosbarth ac adref. Gwerthfawrogir os y gallwch wrando a thrafod y llyfrau gyda’ch plentyn. Eleni, byddwn yn defnyddio SeeSaw i gofnodi llyfrau darllen yn ogystal a’r cofnod darllen arferol. Bydd cyfle iddynt fel hyn yn yr ysgol recordio eu hunain yn darllen, gan gadw cofnod ar SeeSaw. Ceir dolenni cyswllt ar Google Classroom i wefannau sy’n darparu llyfrau darllen ar y we i’w darllen neu wrando ar straeon. Hefyd, mae gan eich plentyn fynediad i raglenni darllen eleni sef Giglets, Reading Eggs a DarllenCo.
Gwaith cartref: Yn dilyn ymchwil cenedlaethol diweddar, ni fyddwn yn rhannu gwaith cartref wythnosol o hyn ymlaen. Mi fyddwn fodd bynnag yn gofyn wrth eich plentyn o bryd i’w gilydd i drafod ambell destun gyda chi i ennyn eu diddordeb am wahanol agweddau o’r themau sy’n cael eu hastuio.
Cymorth / Ymholiad – Cysylltwch drwy neges Seesaw.
Ein thema: Rydym wedi bod yn treialu themau newydd dros y blynyddoedd aeth heibio ac wedi dod a llais y plentyn i fewn i’r cynllunio. Y thema ar gyfer y cyfnod hwn hyd at hanner tymor Chwefror yw ‘Rhyfel a Heddwch’. Cawsom syniadau gwych i sicrhau fod y thema yn dod yn berthnasol i’r disgyblion. Roedd mewnbwn y plant yn bwysig i ni wrth gynllunio ein tasgau a’n gweithgareddau o fewn y thema. Byddwn felly yn astudio gwaith o ryfeloedd y Cymry yn Oes y Tywysogion i effaith yr ail ryfel byd ar Gymru. Yn ogystal ȃ hyn, roedd y disgyblion eisiau gwybod mwy am anifeiliad mewn rhyfeloedd, safbwyntiau merched nodedig mewn rhyfeloedd e.e. Anne Frank a Malala a beth mae heddwch yn ei olygu iddyn nhw yn bersonol. Cliciwch YMA i weld ein llwybr dysgu wedi’i ysbrydoli gan y plant.
Mathemateg: Yn y gwersi Mathemateg, byddwn yn parhau i roi pwyslais ar waith pen, ymarferion y pedair rheol, a pharhau i atgyfnerthu eu gwybodaeth o dablau lluosi. Byddwn yn datblygu ymhellach i weithio ar unedau siap a mesur, ac yna yn datblygu sgiliau data a thebygolrwydd gan blethu beth a ddysgwyd yn ein gwaith trawsgwricwlaidd. Erbyn diwedd y flwyddyn, fe fyddwn wedi cael blas ar ddatblygu sgiliau algebra yn ogystal.
Iaith: Byddwn yn atgyfnerthu a datblygu ein sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy amrywiol dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu. Yn ystod y gwersi hyn byddwn hefyd yn astudio dwy nofel sy’n cydfynd ȃ’n thema - Friend or Foe gan Michael Morpugo a Y Goron yn y Chwarel gan Myrddin ap Dafydd.
Caiff y disgyblion gyfle ar gyfer cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol drwy wersi Addysg Gorfforol, sesiynau ABaCh a gwersi Meddylfryd o Dŵf. Cânt werthfawrogi cerddoriaeth a mynegi eu syniadau yn greadigol drwy waith celfyddydol.
Ysgol y Graig,
Ffordd y Coleg,
Lon Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7LP
6602154_pennaeth.graig@Hwbcymru.net
(01248) 723092
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Plant a Phobl Ifanc | © 2023 Ysgol y Graig. Gwefan gan Delwedd